Thumbnail
Henebion Cofrestrig
Resource ID
f891b86f-dc70-49a3-a915-92075599c461
Teitl
Henebion Cofrestrig
Dyddiad
Ion. 1, 1901, canol nos, Creation Date
Crynodeb
1.1 Cefndir Mae safleoedd archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael diogelwch cyfreithiol drwy gael eu rhoi ar 'Gofrestr' o henebion. O dan Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu a chynnal y gofrestr hon. Mae mwy na 4000 o enghreifftiau o Henebion Cofrestredig yng Nghymru, sy'n cynnwys olion Rhufeinig, carneddi, cestyll, pontydd, cloddwaith, olion pentrefi diffaith, safleoedd diwydiannol, cyfadeiladau milwrol o'r ugeinfed ganrif ac ati. Ni all Henebion Cofrestredig gynnwys adeiladau eglwysig sy'n cael eu defnyddio na henebion sy'n cael eu defnyddio fel annedd (ac eithrio gan Ofalwr) ac, yn wahanol i Adeiladau Rhestredig, ni roddir gradd iddynt. 1.2 Pa Mor Aml y Caiff y Wybodaeth ei Diweddaru Yng Nghymru, mae henebion wedi cael eu cofrestru ers y 1920au, ac mae'r broses hon yn dal i fynd rhagddi. Gall Henebion Cofrestredig fod yn destun 'Adolygiad', os bydd tystiolaeth archaeolegol/hanesyddol newydd mewn perthynas â'r heneb yn golygu bod angen newid y darlun map. Gellir hefyd dynnu henebion o'r Gofrestr mewn proses o'r enw'Dadgofrestru'. Dyma'r fersiwn gyfredol, fyw o'r set ddata. Er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o'r ddata o fan yma. 1.3 Darluniau Gan i'r rhan fwyaf o'r data gael eu casglu cyn dyfodiad Map Meistr yr Arolwg Ordnans, mae'r data hyn wedi mynd drwy raglen Gwella Cywirdeb Lleoliadol. Credwn fod y darlun gofodol yn rhoi darlun cywir o'r ased, ond os hoffech weld copi o'r map cyfreithiol-swyddogol, gwreiddiol neu drafod darlun o ased dynodedig, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw). Bydd rhai darluniau o Henebion Cofrestredig, megis bryngaer o'r Oes Haearn, yn cwmpasu'r man Cofrestredig mewn un darlun, ond mae'n bosibl y bydd rhai eraill, fel carneddi o'r Oes Efydd, yn edrych fel eu bod wedi'u lleoli ar wahân yn y darluniau, er eu bod yn rhan o'r un Heneb Gofrestredig mewn gwirionedd. 1.4 Defnyddio Data Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data GIS hyn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data hyn am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data yn addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data yn arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael eu dehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data hyn eu gwirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw). Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: - Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'u trwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/ 1.5 Gwybodaeth Arall Mae rhagor o wybodaeth am Henebion Cofrestredig i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: - Henebion Cofrestredig | Cadw (llyw.cymru) Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: - Chwilio cofnodion Cadw | Cadw (llyw.cymru) 1.6 Cyngor Cyffredinol Dylid ceisio cyngor dehongli lle bo angen. Caiff y wybodaeth hon ei gwirio o bryd i'w gilydd, fodd bynnag, os hoffech drafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw). 
Rhifyn
--
Responsible
superuser
Pwynt cyswllt
User
superuser@email.com
Pwrpas
--
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
not filled
Cyfyngiadau
None
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: 171390.1
  • x1: 354019.8563591633
  • y0: 164607.44434712268
  • y1: 395328.6000000015
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
Cymdeithas
Rhanbarthau
Global